current location : Lyricf.com
/
Songs
/
Y Gwcw lyrics
Y Gwcw lyrics
turnover time:2024-12-24 13:28:42
Y Gwcw lyrics

Wrth ddychwel tuag adref

Mi welais gwcw lon,

Oedd newydd groesi'r moroedd

I'r ynys fechan hon.

Cytgan: 

Holi a ci, 

Holiacici a holiacwcw, 

Holiacici a holiacwcw

Holiacici a holiacwcw, 

Holiacici a hoi

A chwcw gynta'r tymor

A ganai yn y coed,

Run fath â'r gwcw gynta

A ganodd gynta 'rioed.

Cytgan

Mi drois yn ôl i chwilio

Y glasgoed yn y llwyn,

I edrych rhwng y brigau

Ble 'roedd y deryn mwyn.

Cytgan

Fe gerddais nes dychwelais

O dan y fedw bren,

Ac yno 'roedd y gwcw

Yn canu uwch fy mhen.

Cytgan

O diolch iti gwcw,

Ein bod ni yma'n cwrdd,

Fe sychais i fy llygaid

A'r gwcw aeth i ffwrdd.

Cytgan

Comments
Welcome to Lyricf comments! Please keep conversations courteous and on-topic. To fosterproductive and respectful conversations, you may see comments from our Community Managers.
Sign up to post
Sort by
Show More Comments
Irish/Scottish/Celtic Folk
  • Languages:English, Welsh, Gaelic (Scottish Gaelic), Gaelic (Irish Gaelic)+3 more, English (Scots), Other, Cornish
  • Genre:Folk
  • Wiki:https://en.wikipedia.org/wiki/Celtic_music
Irish/Scottish/Celtic Folk
Latest update
Copyright 2023-2024 - www.lyricf.com All Rights Reserved