pan rwyt ti i ffwrdd
mae fy nghalon i’n mynd ar wahân
datrys yn ara
mewn pelen o wlan
y diawl sy’n ei chasglu
gyda gwên ddireidus
ein cariad
mewn pelen o wlan
fydd e byth yn rhoi hi nôl
felly pan fyddi di’n dod drachefn
bydd rhaid i ni neud cariad newydd