current location : Lyricf.com
/
Songs
/
Rap God [Welsh translation]
Rap God [Welsh translation]
turnover time:2024-12-27 02:22:20
Rap God [Welsh translation]

[Intro]

“Shgwla, o’n i am drin ti’n ysgafn am bido brifo twmlade ti.”

“Ond dyma’r unig siawns fydda i’n ga’l.”

“Ma rywbeth o’i le, wi’n gallu twmlo fe.”

Chwech munud. Chwech munud. Chwech munud, Slim Shady, tro ti!

“Rhyw dwmlad sy da fi – na gyd. Fel bo rywbeth ar fin digwydd, ond sa i’n gwbo be. Os bo hyn yn feddwl be wi’n credu, ŷn ni miwn trwbwl, trwbwl mowr; ac os bo hwnna'n gyment o ynfytyn â dwedi di, sa i’n cymryd unrhyw siawns.”

“Yn gwmws be argymhellodd y meddyg ŷt ti.”

[Cytgan]

Dychre twmlo fel Duw rap, Duw rap yn codi ’to

Ma mhobol i gyd o’r bla’n i’r cefn yn nodio, nodio

Nawr, prun sy’n credu bo breichie fe gyhyd am baffio-cernodio, cernodio?

Os bo fi’n rapio fel robot, gall Rap-bot yn fy nynodi, sbo

[Pennill 1]

I rapio fel cyfrifiadur, rhaid iddi fod yng ngennyne i

Ma da fi liniadur ym mhoced gefen i

A pin sgwennu o fewn drwch blewyn o ffynhonni

Ges i bres bras mas o’r blas ar rapio fel hynny

Des i hyd i fudd a llofrudd oddi arni

Er pan o’dd Bill Clinton miwn swydd yn ei Dŷ Gwyn e

Yn cael anwesu ei geillie gan Monica Lewinsky ar ei glinie

MC mor onest dw i o hyd

Ond mor anfoesog ac anniwair â'r holl uffern i gyd

Sillafe ffwrdd-â-hi (lladda nhw da'r)

Hip-hop ffflit-fflat, chwit-chwat ma

Ti rîli ddim moyn cymryd rhan mewn cystadlu pisho

Da’r cythraul bach rapio ’ma, sy’n paco MAC1 yng nghist yr Ac’2

Yn malu cachu rap cnapsach grwgnach

A chwap wi'n ceisio prancie a campie geiriol gan ymarfer am bido bod yn rhy lac

I allu lluchio ryw ford, myn yffach

Ar gefen cwpwl o gadi ffans a torri ddi'n racs

O'n i heb ddyall yr eironi o'r enw Aftermath3 tan yn hwyrach

Fyddwn i ffowndro neu ffrwydro? dim ond geirie 'Ff' alla i'n bwrw

Newch chi dwmlo'n ymosodiad crac, sy

I rapwyr yn ca'l amser drwg y mish, yn dod â clwt Macsi

Ma pethe’n ofnadw o wael i’r rhai ishel-radd

Tra bo fi’n crefftio’n feistriolgar yr orchest ’ma fel

[Cytgan]

Dychre twmlo fel Duw rap, Duw rap yn codi ’to

Ma mhobol i gyd o’r bla’n i’r cefn yn nodio, nodio

Nawr, prun sy’n credu bo breichie fe gyhyd am baffio-cernodio, cernodio?

Na i ddangos taw ddim yn anodd di cadw’r cach ’ma flodio, flodio

[Pennill 2]

Ma pob un yn moyn yr allwedd a dirgelwch anfarwoleth miwn rap fel yr hyn sy da fi. Wel, dyma’r wir lasbrint

Dim ond cynddaredd a gorawen ieuenctid

Ma pawb yn caru cefnogi un sy’n creu helynt

Nes i daro’r ddaear fel rhyw asteroid

Dim ond anelu at y lleuad mod i'n neud ers hynny (Piw!4)

Ma MCs yn ca’l eu danfon nôl i’r ysgol da’r gerddorieth ’ma

Chos bo ddi’n gerbyd i mi dorri’r odle fel "bws da rhain"5

Nawr ysgol newydd wi’n arwain, yn llawn myfyrwyr

Finne? Cynnyrch dw i o Rakim

Lakim Shabazz, 2Pac, N.W.A., Cube, shwmai Doc6, Ren

Yella, Eazy, diolch, naethon nhw sbrydoli Slim

Yn ddigon i dyfu lan ryw dydd, i ffrwydro a bod mewn sefyllfa

I gwrdd â Run-D.M.C., a cyflwyno nhw

I Oriel yr Enwogion Roc a Rôl, diawch erio'd

Er i dim ond i mi fynd miwn eglws fydda i'n ffrwydro miwn tân

Dim ond i Oriel y Meddwogion fydda inne'n ca'l dderbyn

Ar fur y cywilydd

Chi’r cadi ffans yn credu taw gêm yw hi gyd, nes i mi wacio Flocka Flame

I ben draw planc, a gwed tho i, am be yffach ti’n feddwl amdano?

Boi bach hoyw dy olwg7

Mor hoyw wi ffili weud e da wyneb strêt, yw dy olwg 8

Rwyt ti’n dyst i gyflafan

Fel gwylio cyfarfod eglws yn ca’l ei gynnal, yw dy olwg

“Bobol y Bala, hogyn hoyw sy fama!” – ebe nhw, yw dy olwg

Fe gei di fodiau lan, pat ar gefen ti

A “chwarae teg” wrtho label ti bob dydd, yw dy olwg

Shgwl, yw dy olwg! Be ti’n weud, yw dy olwg?

Wi’n siŵr o gael “ie, myn uffarn” oddi ar Dre, yw dy olwg

Na i witho am bopeth bo fi'n ga'l, heb byth ofyn am ddim byd

Cer mas o’n wyneb i, yw dy olwg!

Yn y bôn, bach, fyddi di bob amser ffili

Cadw lan da’n cyflymder i, yw dy olwg, ’chos bo fi'n –

[Cytgan]

Dychre twmlo fel Duw rap, Duw rap blysgar

Ma mhobol i gyd o’r bla’n i’r cefn yn nodio ar wasgar

Y ffor wi’n rasio rownd y trac, galwa fi’n NASCAR, NASCAR9

Dale Earnhardt y parc trelyrs, Duw y Sbwriel Gwyn

Penliniwch o fla’n Zod y Cadfridog

Krypton di’r blaned ’ma – nace, Asgard, Asgard

[Pennill 3]

So, Thor fyddi di, ac inne’n Odin

Lygoden, o fla'n dy oruchaf, ar dy linie!

Wi’n tanio, wedyn ail-lwytho a pelenne

Ac yn syth at y bomie wi'n cludo'n 'yn becynne

A ddylwn i bido ca'l yn deffro

Fel y meirw byw wi’n cerdded, ond dim ond pen yn siarad, sombi'n twyllo ange

Ond wi’n hala fam ti i sugno pidynne

Wi off fy nŵdl ramen i10

Do’s da ni ddim byd yn gyffredin, y pŵdl anghymen ti

Dwi’n Doberman, pinsha fraich ti a tala barch, ddisgybyl

Fi sy ma, ma’n onestrwydd fi'n ddidostur

Ond pwy iws i fe os bo fi heb iwso'r cwbwl

I'r gwell, o leia unweth miwn chydig

So, wi am sicrhau yn rywle yn yr olion traed ieir ma bo fi'n sgriblo a dwdlo digonedd o odle

Am falle trial helpu rhai i ddod drwy amser y gwyllion

Ond ma rhaid i mi roid hibo rhai gnewyllion

Rhag ofan, chos bo chi’r rapwyr heb gontract nag enillion

Eto’n syllu arna i’n newynog yn gobeth o weddillion

Wi’n gwbo taw ers talwm ro’n inne’n

Arfer bod yn frenin yn y sîn tanddaearol

Ond wi wastad yn rapio fel pan o’n i’n snapio wrth sodle Pharaohe Monch

So wi’n dal ati ddadle da odle, ond pan ti’n gosodi

Dengarwch at y lliw sy ar yn gro’n i

Ti’n dod yn ry fawr a dyma’n nhw’n trallodi

Sensro di, fel da'r yr un llinell na

Wedes i ar ‘Fi Sy Nôl’11 o’r Mathers LP 1 pan nes i fentro

Byddwn i’n ca'l saith cryts o Columbine12, eu dodi

Miwn un rheng, atodi rhyw AK-47, rifolfer a pistol naw13

Gwela os bydda i’n ca’l neud ny nawr bo fi ddim mor fawr ag o’n i, ond yn dod i

Fodoli'n un o'r anfarwolion, drwy byrth y nefolion

Rwyt ti’n sownd miwn ystumdro dwy fil pedwar

A sa i’n gwbo pam yffach ti’n dal ati i odli

Rwyt ti o gyment o iws â Rapwnsel da affro14 gwatwar

Ti’n sgwennu’n normal? Stwffia ‘normal’, myn uffern i!

A wi newydd brynu gwn pelydr o’r dyfodol

Dim ond i ddod i saethu ti, fel pan na’th Fabolous wylltio Ray J

Am fod Ffab di galw fe'n gadi ffan yn gytre Mayweather, wrth weld ei wedd e

Yn cyflwyno cân ar y piano i ryw ŵr wrth ei sedd e

Mam bach, sbesial yr wthnos y sianel gêbl o’dd honno!

So fe a’th Ray J yn syth i’r orsaf radio

Y dydd nesa, “Shgwl, Ffab, wi’n mynd i ladd di, co!”

Geirie’n dod atoch chi ar gyflymder uwchsonig (J.J. Fad)

A sama lama dwma lama15, ŷt ti’n tybio taw o’r dynol ryw dw i

Be sy angen neud iddi ddod drwodd i ti bo fi’n oruwchddynol?

Yn arloeswr, di neud mas o rybar, fel bo popeth rwyt ti’n weud yn adlamu oddi arna i ac yn clymu i ti a

Mwy nag erio’d o’r bla’n, wi’n dangos heb arafu

Shwt i beri i gynulleidfa gredu bo nhw’n ymddyrchafu

Sdim diwedd ar 'yn haf fi, a wn i bo’r casawyr byth yn craffu

I fi gwmpo di'n anafu, yna cân nhw ddathlu

Chos wi’n nabod y ddolen i sbrodoli

Cerddorieth orchfygol sy da fi, cerddorieth archfarchnad sy da ti.

“O, ma fe’n rhy prif lif.”

Wel, dyna be ma’n nhw’n neud pan bo nhw’n eiddigus, mae’n nhw’n ca'l drysu

“Nace hip-hop, ond pop,” – am bo da fi yffach o ffor o gyplysu ddi

Da roc, da rap sioc gan Doc16

Towla mla’n “Colla Dy Hunan”17 a ma’n nhw’n colli ddi am bo fi sy’n tywysu

“Wn i ddim shwt i neud y fath ganeuon

Wn i ddim pwy eirie sy angen.”

Wel, gad i fi wbod pryd fydd da ti syniad

Caiff unrhyw un o’r penillion ma beri i ti gryniad

Ma di canu arnat ti, ti’n ca’l lo’s heb run pwniad

Sawl pennill llofruddiedig fydd hi’n gymryd

I arbrofi i ti taw os o't ti’n hanner mor hyfryd

 fi yn ganeuon ti, gaet ti aberthu gwyryfon hefyd?

Ach, was bach, mas o’r ysgol, jynci i pils, myn yffach i

Shgwla ar yr acolâds ma sgilie fi di bachu

Llond bol o’n hunan, ond eto’n newynog am flas

Wi’n bwlio’n hunan chos wi fforso’n hunan i neud yn gore glas

A wi’n filiwn o ligie o fla’n di yn y ras

Nei di alaru pan fydda i’n llefaru â thafode, ond ma dafod fi mewn boch o hyd, pen pidyn, cer i grafu!

Wi’n feddw, felly, Satan, cymer y ffycin llyw, was

Fi fydd yn mynd i gysgu yn y sedd fla’n

O hyd yn crancio lan y bâs ar Heavy D And The Boyz, eto “Boliog ond Hwyliog”18

Ond ym mhen i ma rywbeth wi’n gallu dwmlo’n tynnu, cyferbynnu

Mae angylion yn ymladd â diawled a danfon yr alwad

I mi ga’l gwared ar damed o’r gwrageddgas

Ond dim ond i ti ystyried chwerwder y casineb

Sy da fi, o bosib fyddet ti'n fwy amyneddgar

Yn fwy dyner tuag at fy ystyr

A dyall y rhagfarn sy'n ymddangos mor treisgar

Ond o's ffycin ots? Pan ddaw’r bywyd â lemwne, na lemonêd de!

Ond os bo fi ddim yn ca’l maeddu’r merched

Shwt yffach dw i i bobi iddyn nhw gacen ar archeb?

Paid gymysgu e da Satan, fydde hynny’n dychrineb

Os ŷt ti’n meddwl bo angen mynd dramor ar wylie

I mi faglu ddi, a hala ddi i gwmpo ar ei wyneb

Paid bod yn dwp! Bod yn frenin? Sa i’n credu, clyw

Pam fod yn frenin pan rwyt ti’n gallu bod yn dduw?

1. Math o beirianddryll bychan2. Acura, enw unrhyw fodelau Gogledd Americanaidd o geir Honda3. Label recordiau ‘Adladd’ ei ystyr4. Sŵn fel taflegryn yn cael ei lansio5. Chwarae â geiriau ar enw y rapiwr Busta Rhymes6. Dr Dre7. Byddai Em yn siŵr o hawlio nad homoffobig yw’r llinell yma, ond dim ond yn sathrug tuag at ei cystadleuwyr8. Tardda’r llinellau hyn o gêm y stryd, ymhle mae pob chwaraewr yn meddwl am rywbeth hyll neu sarhaus i ddweud am yr eraill yn ei dro, gan atodi’r geiriau ‘X looking boy’ (bachgen X ei olwg) ar ei ben9. Cystadleuaeth rasio ceir stoc10. math o bryd Siapaneaidd11. ’I’m Back’12. Ysgol lle saethwyd deg disgyblion gan ddau o’u cyn-fyfyrwyr yn 199913. Milomedr14. Yn llythrennol, â’i gwallt mewn plethau clos i’w phen, yn ôl y ffasiwn gwragedd du eu croen15. geiriau nonsens o’r gân Supersonic o 1988, gan y grŵp benywaidd JJ Fad16. Dr Dre unwaith eto17. ‘Lose Yourself’, hen gân arall Eminem18. ’Chunky But Funky’, hit Heavy D And The Boyz o 1987

Comments
Welcome to Lyricf comments! Please keep conversations courteous and on-topic. To fosterproductive and respectful conversations, you may see comments from our Community Managers.
Sign up to post
Sort by
Show More Comments
Eminem
  • country:United States
  • Languages:English
  • Genre:Hip-Hop/Rap
  • Official site:http://www.eminem.com/
  • Wiki:http://en.wikipedia.org/wiki/Eminem
Eminem
Latest update
Copyright 2023-2024 - www.lyricf.com All Rights Reserved