current location : Lyricf.com
/
Songs
/
No Man's Land [Welsh translation]
No Man's Land [Welsh translation]
turnover time:2024-07-08 16:10:11
No Man's Land [Welsh translation]

O Tomos John Williams, mi welaf dy fedd

Ar gaeau glas Ffrainc sydd heddiw mewn hedd

Rwyt heddiw mor unig, mor bell o Fron Goch

A'r pabi yn unig sy'n cofio gwaed coch.

Mi welaf nad oeddyt ddim ond deunaw oed

Wrth ddisgyn i'r Somme - dyna hanes erioed,

Wrth ymladd dros wledydd a thros eu rhyddhau

Mi gefaist yn ddeunaw i'r ddaear dy gau.

Ond ni che'st d'alw'n arwr, na dy gyfri'n wlatgarwr,

Ac ni chwifiwyd y faner ar hanner y mast,

Ac ni wnaed uwch dy waed unrhyw wylo

Gan y rhai oedd â gwaed ar eu dwylo.

A phwy oeddan nhw ddwedodd wrthyt ysgwn

Mai swanc oedd i lanc ysgwyddo y gwn?

A phwy oeddan nhw efo'u hiwnifform "swell"

A'th ddriliodd a'th fartsiodd, a'th fwrdrodd mewn sbel.

Ni welaist drwy hyn tan rhy hwyr yn y dydd

Ni che'st ti mo'r cyfle i dyfu'n ddyn rhydd

Ond drwy'r mwg a thrwy'r medals wrth ddisgyn i'r llawr

Mi welaist nad nhw fyddai'n wylo yn awr.

Roedd eraill mewn cell yn dy annwyl Fron Goch

Yn llwydaidd eu gwedd yn cael bwyd cibau'r moch

Ond fflam eu gwrthryfel a gadwant ynghyn

A Werddon a gododd drwy safiad di-gryn.

Mi gawsant gaethiwed am geisio rhyddhau

Eu gwlad hwy o'r dwylo a'th yrrodd i'th wae

A mam yn Fron Goch oedd a'i chalon yn drom

Wrth glywed fod llencyn yn llwch yn y Somme.

Mae'r dynion yn Llundain a'u seddau Whitehall

Yn gyrru i ryfel rhai byth na ddon `nôl;

O slymiau tre Glasgow neu Cymru cefngwlad

Mae hogiau dinewid yn cyrchu i'r gâd.

I farw neu ynteu i ladd eu cyd ddyn

Yn enw rhyw rhyddid nas gwyddo ei hun;

Rwyt ti, Tomos Williams, dros ddim yn y byd

Yn disgyn yn `sglyfaeth i'r fffosydd o hyd.

Ni welaist drwy hyn tan rhy hwyr yn y dydd

Ni che'st ti mo'r cyfle i dyfu'n ddyn rhydd

Ond drwy'r mwg a thrwy'r medals wrth ddisgyn i'r llawr

Mi welaist nad nhw fyddai'n wylo yn awr.

Comments
Welcome to Lyricf comments! Please keep conversations courteous and on-topic. To fosterproductive and respectful conversations, you may see comments from our Community Managers.
Sign up to post
Sort by
Show More Comments
Eric Bogle
  • country:Australia
  • Languages:English, English (Scots)
  • Genre:Folk
  • Official site:http://ericbogle.net/
  • Wiki:http://en.wikipedia.org/wiki/Eric_Bogle
Eric Bogle
Latest update
Copyright 2023-2024 - www.lyricf.com All Rights Reserved