current location : Lyricf.com
/
Songs
/
Monochrome [Welsh translation]
Monochrome [Welsh translation]
turnover time:2024-10-05 13:42:03
Monochrome [Welsh translation]

Eniwê,

Dwi’n gallu trio unrhyw beth

Mae’n un cylch sy'n arwain i nunlle

A dwi wedi blino rwan

Eniwê

Dwi wedi colli fy wyneb, fy hunan-barch, fy edrychiada da

Mae popeth wedi mynd

A dwi wedi blino rwan

Paid cael ofn

Dwi wedi ffeindio jobyn da a dwi’n mynd i’r gwaith

Bob dydd ar

Fy hen feic o’t ti’n garu

Dwi’n pentyrru llyfra heb eu darllen o dan fy ngwely i

A dwi’n rili meddwl fydda i byth yn darllen eto

Dim canolbwyntio, dim ond rhyw anhrefn gwyllt

Ymhob man o fy ngwmpas, ti’n gwbod mod i mor wedi blino rwan

Paid poeni

Dwi’n mynd yn aml i ginio neu bartis

Efo hen ffrindia sy’n gofalu amdana i

Yn mynd â fi nôl adra ac yn aros

Lloria unlliw

Walia unlliw

Dim ond absenoldeb yn agos i fi

Dim byd ond tawelwch o fy ngwmpas i

Weithia dwi’n chwilio am ddigwyddiad neu rywbeth i’w gofio

Ond does gen i ddim byd ar fy meddwl yn wir

Weithia dwi’n agor y ffenestri

A gwrando ar bobl yn cerdded lawr y stryd

Mae ’na fywyd tu allan fan’na

Comments
Welcome to Lyricf comments! Please keep conversations courteous and on-topic. To fosterproductive and respectful conversations, you may see comments from our Community Managers.
Sign up to post
Sort by