Mewn cornel yn fy nghalon y mae clwyf
Ers fy ieuenctid yr wyf yn ei ddwyn
Canys, gwae fi, ni charai’r hwn a garwn
Mo’r peth fy mod i’n ei garu
Dim ond y trefi oedd e’n garu
Y moroedd mawr, y gwledydd pell
A dim ond y cefn gwlad yr wyf finnau’n garu
Cefn gwlad mor annwyl fy Ngorllewin Llydaw!
Rhaid oedd dewis rhwng dau gariad
Cariad at wlad, cariad at ddyn
I’m wlad rwy wedi gwystlo ’mywyd
A llacio gafael ar yr hwn y garwn
Rwy heb ei weld erioed ers hynny
Erioed heb glywed sôn amdano
Dalia’r clwyf o fewn fy nghalon
Canys charai ef mo’r peth a garaf.
Dylai pob un ddilyn ei dynged
Dyna gyfraith y byd yma
Dirwasgwyd fy nghalon, yn siŵr i chi
Canys charai ef mo’r peth a garaf
Iddo ef, cyfoeth, anrhydeddau
I’m rhan innau, tlodi a dibristod
Ond ni fynnwn cyfnewid am drysorau
Fy Ngwlad, fy Iaith, a’m Rhyddid i!