Dau gi bach yn mynd i'r coed,
Esgid newydd am bob troed;
Dau gi bach yn dwad adre
Wedi colli un o'u sgidie
Dau gi bach.
Dau gi bach yn mynd i'r coed,
Dan droi fferau, dan droi troed;
Dau gi bach yn rhedeg adre
Blawd ac eisin hyd eu coese -
Dau gi bach.
Dau gi bach a'u bron yn wyn
Dau gi bach a'u llygaid syn
Dau gi bach yn dal i sbio
Dau gi bach sut r'ych chi heno
Dau gi bach.