Cariad dwi'n unig heno a ble wyt ti nawr?
Cariad dwi'n unig heno gai cwrdd a ti wrth y wawr?
Cyffwrdd sydd mor syml,
sy'n cadw fi fynd drost y cwmwl.
Cyffwrdd sydd mor syml,
sy'n cadw fi fynd...
Aros yma fwy, aros yma'n agos.
Aros wrthaf i fy nghariad,
dwi'n caru ti.
Un gusan fach i'n helpu ni'n 'mlaen
ar y daith hir o'm blaen.
Cofia fy nghalon pan ti yn bell,
ond plis arosa' tan dwi yn well.
Cariad dwi'n unig heno a ble ga i fynd?
Cariad dwi'n unig heno, dwi yn methu ti fy ffrind...
(2x):
Aros yma fwy, aros yma'n agos.
Aros wrthaf i fy nghariad,
dwi'n caru ti.
Dwi'n caru ti.
Dwi'n caru ti.
Cariad, dwi'n unig heno.