Dyn ni ’di dod, ’di dod ’co, i’r tafarn
Dyn ni ’di dod, ’di dod, i’r chwarae
Gwed ’tho i, Lili, der’ â dŵr i minnau
Sy ’di disgyn ar Din Eidyn
Y môr sy’n ein huno ni
Between Ireland and Brittany
Myn Sant Padrig, yn enw trugaredd
Neu Sant Yves, neu’r derwyddon
Bleiddiau’r môr, y bobl galed
Bleiddiau’r môr sy’n bobl galed
Bleiddiau’r môr, ’run fath â’r Llydawyr
Bleiddiau’r môr, fel y Llydawyr
I ninnau y môr sy’n famwlad
We fishermen from Brittany
Yn gyment â’r Arforig1
Y môr sy’n ein huno ni
Sailors, pipers of Brittany
An Bhriotáin-bheag agus Éireann2
I’r pysgotwyr a hefyd i’r pysgod
Hedd, urddas a maddeuant
’Chydig yn Alaidd, tra Chymreig
Ewropeaidd, yn ôl pob tebyg, ond
’Chydig yn Alaidd, tra Chymreig
Eigionaidd, Ni ’di ni
Y byd yw fy nhŷ i
A Llydaw yw fy fflat
Wi’n gweud ’ny heb fod yn gas, ac wrth reswm
Heb gywilydd, Llydawyr ’dyn ni
Dwi wedi bod yn y byd i gyd
Ond does unrhyw le fel Llydaw
Ond unrhyw byd, unrhyw byd
Does dim mwy Llydaw na dim byd
bleiddiau’r môr, yn galed
’Run fath â’r Llydawyr i gyd
1. Hen enw Lladin ar Lydaw2. Llydaw ac Iwerddon yn Wyddeleg: er bod 'an Bhriotáin' yn Llydaw, ac 'an Bhreatann Bheag' yn Gymru, yn yr iaith hon