Duw! cadw ar bob awr,
Frenhines Prydain Fawr,
Mewn hawddaf hynt,
Cylchyna'i gorsedd fry,
A'th ofal tadol, fu
Yn dwr a chadarn dy,
I'w thadau gynt.
Blodeued tangnef gwir,
A chariad yn y tir,
Fel llysiau gardd:
Rhag gloes gelynion gwlad,
Mewn heddwch a mwynhad,
Amddiffyn Di, O Dad
I Fictoria hardd.
Aed gwirioneddau lor,
Ar led o for i for,
Yn nyddiau hon
Udganer yn ei hoes
Am Grist ac lawn ei Groes,
Ei lef a'i ingawl loes,
Drwy'r ddaear gron.